|
Rhif y ddeiseb: P-06-1492 Teitl y ddeiseb: Cadw mynediad 24 awr i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli Geiriad y ddeiseb: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnig bod yr Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli yn cael ei hisraddio i wasanaeth 12 awr yn hytrach na gwasanaeth 24 awr. Llanelli yw’r boblogaeth drefol fwyaf yn Sir Gaerfyrddin, ac un o'r rhai mwyaf yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac felly mae angen mynediad 24 awr, fan leiaf, i'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip. Os bydd llai o wasanaethau yn Ysbyty’r Tywysog Philip, bydd mwy o bobl yn troi at y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn yr ysbytai yn Nhreforys a Glangwili, gan arwain at amseroedd aros hwy yn y ddau leoliad. Nid yw'n dderbyniol i'r bwrdd iechyd leihau'r gwasanaeth hwn i ddim ond 12 awr y dydd (8am - 8pm). Er mwyn sicrhau bod pobl Llanelli yn cael mynediad at y driniaeth feddygol y maent yn ei haeddu ac i atal gorlenwi’r adrannau damweiniau ac achosion brys cyfagos, ni ddylid caniatáu i'r newid hwn yn Ysbyty’r Tywysog Philip fynd rhagddo. Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar benderfyniad y Bwrdd Iechyd ac atal y newid hwn rhag digwydd yn Llanelli, er mwyn diogelu a chynnal gwasanaeth mân anafiadau 24 awr. |
Mae’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli, yn trin cleifion dros flwydd oed ag amrywiaeth o fân anafiadau. Mae’r staff yn cynnwys meddygon teulu ac ymarferwyr nyrsio a gallant drin cleifion â phroblemau gan gynnwys anafiadau i’r cyhyrau a’r cymalau, llosgiadau a sgaldiadau, mân anafiadau i’r pen, mân anafiadau i’r llygaid, a chlwyfau.
Mae Uned Asesu Meddygol Acíwt, sy'n cael ei staffio gan uwch feddygon a nyrsys ar yr un safle, yn trin cleifion ag ystod eang o gyflyrau meddygol, gan gynnwys strôc a chyflyrau'r frest.
Cafodd yr Uned Mân Anafiadau a’r Uned Asesu Meddygol Acíwt eu hagor yn 2016, yn dilyn cau adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Tywysog Philip fel rhan o waith ailgynllunio ehangach gwasanaethau ysbytai yng Nghymru.
Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) arolygiad dirybudd o’r Uned Mân Anafiadau dros 3 diwrnod ym mis Mehefin 2023. Canfu AGIC fod “pwysau sylweddol” ar yr uned yn “effeithio ar y gallu i ddarparu gofal diogel.”
Er bod AGIC yn dweud y “rhoddwyd sicrwydd i'r arolygwyr bod cleifion a oedd yn dod i'r uned â mân anafiadau yn cael lefel dda o ofal diogel ac effeithiol gan weithlu medrus” roedd adroddiad yr arolygiad yn amlygu nifer o bryderon sylweddol, gan gynnwys:
§ Roedd cleifion meddygol a llawfeddygol ychwanegol yn cael eu cadw yn yr uned am gyfnod hwy na'r hyn sy'n gysylltiedig ag Uned Mân Anafiadau, rhai ohonynt am hyd at 5 diwrnod, oherwydd diffyg gwelyau yn Ysbyty'r Tywysog Philip ac ysbytai acíwt eraill.
§ Roedd cleifion ychwanegol ar drolïau am gyfnodau estynedig. Roedd y cleifion hyn ar y cyfan yn hŷn ac yn ddifrifol wael ac nid oedd yr offer a oedd ar gael yn darparu'r cysur angenrheidiol ar gyfer arosiadau estynedig, a oedd yn golygu bod y cleifion yn fwy tebygol o gwympo neu ddatblygu briwiau pwyso. Dim ond un toiled oedd ar gael ac nid oedd unrhyw gyfleusterau hylendid ar gael i gleifion yn yr uned.
§ Ni chafodd yr arolygwyr sicrwydd bod cleifion ychwanegol yn cael gofal amserol wrth aros am wely meddygol yn yr ysbyty na bod y rhai a oedd yn aros i gael eu symud gan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) i safle acíwt arall yn cael eu trosglwyddo mewn da bryd.
§ Roedd staff yn teimlo dan bwysau ac roedd gwrthdaro proffesiynol o ran eu rolau a’u cyfrifoldebau pan fydd disgwyl iddynt ofalu am gleifion nad oes ganddynt fân anafiadau sy'n aros am gyfnodau hwy.
Ar 26 Medi 2024, cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dday dylai’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty’r Tywysog Philip fod ar gau dros nos (8pm i 8am) am gyfnod o chwe mis o 1 Tachwedd 2024.
Cytunwyd i gau dros nos oherwydd y diffyg sylweddol a pharhaus o ofal meddygol, sy’n arwain at bryderon clinigol mewn perthynas â diogelwch cleifion a’r effaith ar les staff.
Clywodd y bwrdd ei bod yn fwyfwy anodd dod o hyd i feddygon â chymwysterau addas i fod ar y rota, a oedd yn golygu bod yr Uned Mân Anafiadau yn cael ei arwain gan ymarferwyr nyrsio yn unig ar sawl achlysur. Roedd y diffyg staff ar gael yn effeithio'n arbennig ar sifftiau dros nos. Roedd yr effaith ar y gweithlu yn cynnwys lefelau uchel o straen, gorbryder a’r anallu i wneud y swydd y maent yn cael eu cyflogi i’w gwneud, ynghyd â risg uwch i’r cleifion hynny sy’n dod i’r Uned Mân Anafiadau heb feddyg â chymwysterau addas.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i’r ddeiseb hon yn pwysleisio bod byrddau iechyd lleol yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau clinigol diogel o ansawdd da yn cael eu darparu i’w poblogaeth leol.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dweud ei fod yn disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fonitro’r newid yn barhaus ac y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un peth.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn dweud bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dechrau ar y gwaith o ystyried dyfodol yr Uned Mân Anafiadau ac y bydd yn cynnal arfarniad dan arweiniad clinigol ar gyfer model hirdymor yr uned mân anafiadau.
Rhaid i'r bwrdd iechyd ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar wneud newidiadau i wasanaethau iechyd wrth ystyried y newidiadau hyn.
Mae nifer o Aelodau o’r Senedd wedi codi cwestiynau ynghylch cau’r Uned Mân Anafiadau dros nos mewn cwestiynau i’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Er enghraifft, ar 1 Hydref 2024 gofynnodd Lee Waters MS i’r Prif Weinidog a fyddai’n galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i “ailystyried” y newid.
Ymatebodd y Prif Weinidog:
Mae'r bwrdd iechyd wedi ceisio, fel yr wyf i'n ei deall, recriwtio meddygon cymwysedig i gefnogi'r uned, ond mae wedi bod yn aflwyddiannus, sy'n golygu bod yr uned wedi troi'n wasanaeth a arweinir gan ymarferwyr nyrsio brys. A rhan o'r broblem oedd, rhwng Chwefror a Gorffennaf, bod 42 o fylchau heb eu llenwi yn y rota. Nawr, prif gyfrifoldeb bwrdd iechyd yw gwneud yn siŵr bod y gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig yn ddiogel mewn gwirionedd. Felly, dyna beth maen nhw'n ceisio ei wneud. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i'r bwrdd iechyd wneud yn siŵr eu bod nhw'n gwrando ar y boblogaeth leol, a'u bod nhw'n gwneud ymdrechion i wneud yn siŵr bod y staff sydd eu hangen ar gael. Ond nid yw'r staff sydd yno ar hyn o bryd yn barod i ymdrin â phroblemau mawr, ac mae straen pobl sy'n cyrraedd â phroblemau mawr yn achosi nifer sylweddol o absenoldebau. Rwyf i yn credu bod yn rhaid i ni fod yn ymarferol ac yn realistig am y sefyllfa, ond, wrth gwrs, mater i'r bwrdd iechyd yw gwneud penderfyniad.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |